|
Mae Amcan 1 yn cael ei weithredu trwy bartneriaethau a strategiau.
Bydd gan bob Partneriaeth strategaeth gytunedig am ei faes cyfrifoldeb.
Am Sir Ddinbych gweler y Strategaeth
Leol Sir Ddinbychl. (Mae'r ddogfen hon yn y broses o gael ei
gyfiaethu. Os hoffwch weld y fersiwn saesneg cliciwch yma)
Bydd raid cyflwyno prosiectau trwy Bartneriaeth. Mae Prosiectau
sy'n cynnwys hyd at bedwar Awdurdod yn cael eu hystyried fel prosiectau
lleol a dylid eu cyflwyno trwy bartneriaeth lleol ( fel arfer yr
un fydd yn sail i'r prosiect ond ar ôl ymgynghori gyda'r meysydd
a effeithir). Dylid cyflwyno prosiectau mwy trwy bartneriaeth rhanbarthol
sy'n trin y maes perthnasol o'r rhaglen. Bydd y partneriaethau rhanbarthol
a lleol yn ystyried y prosiectau sy'n syrthio o fewn naill ai eu
hardal ddaearyddol neu eu hardal themataidd. Byddant yn ystyried
sut fydd prosiect yn ffitio o fewn eu strategaeth ac a fu'n dyblygu
prosiectau eraill sydd wedi'i cymeradwy'n barod neu sy'n cael eu
hystyried. Anfonir barn partneriaethau rhanbarthol a lleol at y
WEFO.
Mae'r WEFO yn gyfrifol am asesu cymhwyster prosiectau ,ystyried
sut maent yn ffitio o fewn strategaethau Cenedlaethol ac eraill
(ymgynghori gyda phartneriaethau fel sy'n briodol), asesu gwerth
yr arian ac yna cyflwyno ei farn a hefyd barn partneriaethau lleol
a rhanbarthol i'r bartneriaeth strategol.
Mae'r Bartneriaeth Strategol yn ystyried pob prosiect o fewn eu
cyfrifoldeb ac yn gwneud argymhellion i'r WEFO am gymeradwyaeth.
Bydd y WEFO yn gyfrifol wedyn am gymeradwyo llythyrau monitro a
gwerthuso prosiectau a thalu clientau.
Cliciwch yma am ddisgrifiad manwl
am broses wneud cais Cyngor Sir Ddinbych.
Er mwyn cynorthwyo'r broses gais mae Partneriaeth Amcan 1 Cyngor
Sir Ddinbych wedi cynhyrchu set o Nodiadau
Cais i gyfeirio atynt wrth wneud cais.
Yn yr un modd gweler y Dogfennau Cyfeirio
am wybodaeth bellach am ddogfennau y dylid eu cyfeirio wrth wneud
cais am arian Amcan 1.
Am ffurflen gais am ERDF / EAGGF / FIFG cliciwch
yma
Am ffurflen gais ESF cliciwch
yma
|