|
Ffurfiwyd Partneriaeth Amcan 1 Sir Ddinbych yn ystod hydref 1999
yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus eang yn ystod haf yr un flwyddyn.
Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys ymgynghoriad y Cynulliad Cenedlaethol
ei hun ar y Ddogfen Raglennu Sengl a hefyd cynigion Cyngor Sir Ddinbych
i greu partneriaeth leol. Roedd y broses ymgynghori yn rhoi cefnogaeth
unfrydol i greu partneriaeth leol.
Pwyllgor Gwaith yn cynnwys 18 aelod â phleidlais (wedi'i
seilio ar yr egwyddor o drydedd ran a argymhellir gan y Cynulliad
Cenedlaethol) sy'n llywio'r Bartneriaeth. Mae chwe chynrychiolydd
o'r sector cyhoeddus; chwe chynrychiolydd o'r sector cymdeithasol
(preifat); a chwech o'r sector cymunedol/gwirfoddol. Mae'r Pwyllgor
Gwaith yn gweithredu i gymeradwyo ceisiadau project Amcan 1 a gyflwynir
i'r bartneriaeth ac i sicrhau bod y prosesau penderfynu yn deg ac
yn gynrychioliadol o ddiddordebau amrywiol y cymunedau o fewn Sir
Ddinbych.
Mae Grwpiau Tasg yn cynorthwyo'r Pwyllgor Gwaith. Ar hyn o bryd
mae dwy Grwp Tasg yn delio ag adfywio busnesau a datblygu cymunedau.
Mae cynrychiolaeth eang o sectorau perthnasol ar bob Grwp Tasg.
Mae'r rhan fwyaf o aelodau pob grýp tasg yn weithredol yn
yr ardal sy'n cael ei thrafod naill ai fel cynrychiolwyr asiantaethau
neu fel buddiolwyr potensial gweithgareddau rhaglen Amcan 1. Prif
bwrpas y grwp yw helpu i ganfod a datblygu projectau sy'n delio
ag anghenion economaidd ac ecnomeg gymdeithasol lleol ac i sicrhau
bod y ceisiadau a gyflwynir yn cyflawni amcanion lleol.
Mae'r Pwyllgor Gwaith yn derbyn arweiniad pellach gan Grwp Technegol
sydd â chyfrifoldeb am sicrhau bod ceisiadau project yn cydymffurfio
â rheoliadau ariannu'r UE. Mae'r grwp hwn yn cynnwys aelodau
o fewn y bartneriaeth sydd â sgiliau arbenigol mewn datblygu
projectau a gofynion ariannu'r UE. Mae'r Grwp Technegol yn cynnwys
yn bennaf aelodau o sefydliadau'r sector cyhoeddus fel y Cyngor
Sir, WDA, colegau ac ELWa.
Yr Ysgrifenyddiaeth sy'n hyrwyddo gweithrediadau o fewn Partneriaeth
Amcan 1 Leol Sir Ddinbych. Mae'r tîm Amcan 1 o fewn y Cyngor
Sir yn gwneud y gwaith hwn. Mae'r ysgrifenyddiaeth yn sicrhau: bod
y penderfyniadau a wneir yn y gwahanol gyfarfodydd yn cael eu cofnodi;
bod papurau'n cael eu dosbarthu mor eang ag sy'n bosibl; bod rhaglen
Amcan 1 yn cael ei hybu'n lleol; bod cymorth cynhwysfawr yn cael
ei roi i holl noddwyr potensial y project. Cliciwch yma am dyddiadau
cyfarfodydd a cofnodion y pwyllgor gwaith.
Un o flaenoriaethau cyntaf y Bartneriaeth oedd datblygu strategaeth
i roi cyfeiriad ar sut y dylid dyrannu adnoddau Amcan 1 o fewn y
sir. Mae Strategaeth Leol
Sir Ddinbych nodi cyfres o brif amcanion. O fewn y rhain, mae
annog twf economaidd drwy gynorthwyo busnesau yn benodol yn y sector
cynhyrchu sydd â photensial twf, annog cwmniau newydd i mewn
i'r sir, datblygu rhaglenni hyfforddi i gynyddu'r ystod o sgiliau
gweithlu ac annog mwy o gyfranogiad gan grwpiau difreintiedig cymdeithasol.
Hyd yn hyn, mae'r Bartneriaeth wedi llwyddo'n sylweddol i ddenu
arian yr UE i mewn i'r sir. Datblygwyd rhaglen gynhwysfawr o brojectau
a fydd yn cynorthwyo i wella budd cymdeithasol ac economaidd cymunedau
Sir Ddinbych. Mae hyn yn deyrnged i waith caled pawb a fu'n ymwneud
â hyn. Am fwy o wybodaeth ynglyn a prosiectau Amcan 1 Sir
Ddinbych cliciwch yma, am wybodaeth ynglyn
a gwneud cais Amcan 1 cliciwch yma.
|