Datblygu
Busnes
Hyfforddiant
Adfywio Cymdeithas
Datblygu
Busnes
Prosiect Dynamo Economaidd Cefndy Rhan VI
Cyfanswm y Gost: £1,817,000 - Grant UE: £726,800
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae y prosiect yn darparu unedau diwydiannol newydd ar safle a ddynodwyd
ar gyfer datblygu cyflogaeth yn agos at gymunedau mwyaf difreintiedig
Sir Ddinbych. Bydd yn golygu adeiladu 1,600 metr sgwâr o arwynebedd
llawr diwydiannol a chreu 4 uned newydd. Nod mwyaf arwyddocaol y
prosiect yw ysgogi twf Mentrau Bach a Chanolig cynhenid. Bydd hyn
yn cael ei gyflawni drwy ddarparu unedau diwydiannol y mae mawr
angen amdanynt i alluogi i gwmnïau sydd wedi mynd yn rhy fawr
i’w hadeiladau presennol adleoli ac ehangu.
Prosiect Datblygu Safleoedd Diwydiannol Strategol Sir Ddinbych,
Rhan I a Rhan II
Rhan I
Cyfanswm y Gost: £1,747,600 - Grant UE: £699,040
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Wood Road, Y Rhyl – 3,200 troedfedd sgwâr (4 x uned
800 troedfedd sgwâr)
Kings Avenue, Prestatyn – 6,000 troedfedd sgwâr (2x
uned 1500 troedfedd sgwâr x 1 x uned 3,000 troedfedd sgwâr)
Lôn Parcwr, Rhuthun – 8,000 troedfedd sgwâr 2
x uned 1500 troedfedd sgwâr & 1 x uned 3,000 troedfedd
sgwâr)
Rhan
II
Cyfanswm y Gost: £1,962,500 - Grant UE: £785,000
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Gas Works Lane, Prestatyn – 5,000-troedfedd sgwâr (2
x uned 2500 troedfedd sgwâr)
London Road, Corwen – 7,500-troedfedd sgwâr (1 x uned
1500 troedfedd sgwâr a 3 x uned 2000 troedfedd sgwâr)
Adeiladu Cyfalaf OpTIC ac Offeru a Refeniw OpTIC
Adeiladwaith
Cyfanswm y Gost: £5,212,989 - Grant UE: £2,627,720
Adeiladwaith Mewnol
Cyfanswm y Gost: £9,838,069 - Grant UE: £7,089,495
Noddwr Awdurdod Datblygu Cymru
Bydd y ganolfan yn darparu cyfleuster o safon byd ar gyfer anghenion
un-pwrpas y diwydiant Opto-electroneg. Wedi’i leoli ym Mharc
Busnes Llanelwy bydd yn cynnwys 24 o unedau deori ar gyfer Mentrau
Bach a Chanolig Opto-electroneg, canolfan dechnoleg a chanolfan
cefnogi busnes.
Bydd y ganolfan dechnoleg yn gweithredu fel cyfleuster o safon byd,
yn cyflawni’r gwaith datblygu ac ymchwil diweddaraf i gynhyrchion.
Bydd yr unedau deori yn darparu lle ar gyfer mentrau optroneg newydd
sy’n ymgodi, a bydd yn cynnig dyluniad hyblyg i gwrdd ag anghenion
cwmnïau sy’n tyfu. Bydd OpTIC yn creu busnes uwch-dechnoleg
newydd a swyddi o safon yn barhaus ac yn chwarae rhan bwysig yn
adfywiad y Sir. Bydd y cyfleuster hefyd yn galluogi i gynhyrchion
a phrosesau arloesol newydd gael eu datblygu a fydd yn helpu i danio
ymchwil diwydiant, a bydd yn cael ei ddatblygu gyda chymorth Prifysgol
Cymru, Bangor.
Gem yng Nghoron Rhuthun
Cyfanswm y Gost: £475,000 - Grant UE: £190,000
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Bydd y prosiect hwn yn datblygu canolfan fusnes newydd sy’n
targedu busnesau sy’n dechrau o’r newydd a micro-fusnesau
a chyfleuster cymunedol yng nghanol y dref. Bydd y cynllun yn golygu
addasu "Crown House", adeilad lled-adfeiliedig, sy’n
gyfanswm o 550 metr sgwâr. Bydd y cyfleuster newydd yn darparu
canolfan cyngor busnes, micro-unedau ar gyfer busnesau newydd, cyfleuster
TGCh a chyfleuster hyfforddi sy’n gwasanaethu’r dref
a’i chyffiniau gwledig. Mae’r datblygiad yn amcanu at
harneisio, gwella a meithrin y cyfoeth o sgiliau, gwybodaeth a syniadau
cymunedol a thynnu’r gymuned i mewn yn uniongyrchol i’r
economi leol.
Prosiect Arddangos Adfywiad Dinbych
Cyfanswm y Gost: £550,000 - Grant UE: £216,000
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych 
Mae’r prosiect hwn yn dod ag adeilad canol tref i ddefnydd
i ddarparu cyfleuster arddangos i gynorthwyo yn adfywiad economaidd-gymdeithasol
tref Dinbych a’i chyffiniau gwledig. Bydd y cyfleuster yn
amlochrog a bydd yn cynnwys ehangu marchnad ffermwyr, gweithdai/arddangosfan
ar gyfer nwyddau a gynhyrchwyd yn lleol. Bydd hefyd yn darparu lleoliad
yng nghanol y dref ar gyfer y Swyddog Cefnogi busnesau gwledig,
a fydd yn hyrwyddo datblygiadau economaidd fel ei gylch gwaith yn
y dref farchnad wledig hon. Bydd yn galluogi rhyngweithio rhwng
cwmnïau, yn helpu mentrau gwledig i fynd i’r afael â
bylchau gwybodaeth ac yn hwyluso mynediad at wasanaethau prif ffrwd
adfywio economaidd megis Cyswllt Busnes
Rhaglen Cymorth Ariannol Sir Ddinbych ar gyfer Mentrau
Bach a Chanolig (SMEau) Rhan I a II
Rhan I
Cyfanswm y Gost: £1,317,892 - Grant UE: £ 268,948
Rhan II
Cyfanswm y Gost: £1,411,246 - Grant UE: £428,659
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol i fynd i’r
afael ag anghenion datblygu SME’au ar draws sector o’r
economi leol. Mae’n darparu cymorth ariannol drwy amryw o
becynnau grant unigol, wedi’u cynllunio i annog mentrau busnes
newydd, cynorthwyo busnesau sydd mewn bod i ehangu a datblygu, creu
cyflogaeth, annog arloesedd a gwella effeithlonrwydd a chystadleurwydd
busnesau lleol. Mae’r rhaglen yn cyfannu ac yn ychwanegu gwerth
at y cyngor arbenigol sydd ar gael drwy’r rhwydwaith Cyswllt
Busnes presennol ac yn cyfannu prosiect Cymorth Busnes Sir Ddinbych.
Bydd yr ail ran yn parhau i ddarparu cymorth grant drwy becyn hyblyg
o gymorth ariannol sydd wedi’i gynllunio i gwrdd ag anghenion
SME.
Cynllun Grant Cefn Gwlad Sir Ddinbych
Cyfanswm y Gost: £238,870 - Grant UE: £59,435
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Prosiect cynllun grant yw hwn sydd wedi’i gynllunio i gynorthwyo
ffermwyr a thirfeddianwyr i wneud gwelliannau cadwraeth tirwedd
a bywyd gwyllt a thrwy hynny gynorthwyo wrth ddenu twristiaid ychwanegol
i gefn gwlad. Mae’r cynllun yn cynorthwyo prosiectau bychain
a allai fod wedi disgyn drwy rwyd cynlluniau eraill. Bydd o fantais
i ffermydd a’r cymunedau gwledig ehangach drwy warchod a gwella
cefn gwlad a thrwy ddarparu cyfleoedd i ffermwyr ennill sgiliau
newydd. Mae Cyngor Sir Ddinbych yn rheoli’r cynllun, ac mae
staff rheoli cefn gwlad yn rhoi cyngor arbenigol.
‘DAPPER’ – “Denbigh and Prestatyn
Project Encouraging Regeneration”
Cyfanswm y Gost: £288,00 - Grant UE: £144,00
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Fe alluogodd y prosiect hwn i bartneriaethau busnesau aeddfed yn
Ninbych a Phrestatyn a’r ardaloedd o gwmpas ganfod cyfleoedd
marchnad newydd. Fe gynorthwyodd datblygu cynaladwy yn y dyfodol
a gweithredu strategaethau yn unol â hynny. Bydd hyn yn help
i atal dirywiad economaidd y ddwy gymuned fusnes, sydd wedi dioddef
o fod ar yr ymylon ac o danhyrwyddo’r hyn sydd ganddynt i’w
gynnig. Bydd TGCh yn cael ei ddefnyddio’n eang i ddarparu
gwybodaeth ynghylch gweithgareddau a gwasanaethau.
DUNE – Prosiectau gwella ‘Denbighshire’s
Unique Natural Environment’
Cyfanswm y Gost: £360,599 - Grant UE: £169,121
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Prosiect sy’n darparu llwybr trac cyflym i gael at adnoddau
Amcan 1 i grwpiau a dargedwyd, yn cynnwys grwpiau cymunedol, darparwyr
twristiaeth, cymdeithasau amgylcheddol lleol, grwpiau arbenigol
a’r sector preifat. Ei brif nod fydd hyrwyddo rheoli a gwella’r
amgylchedd naturiol yn gynaladwy yng nghynefinoedd arfordirol a
chynefinoedd afonydd Sir Ddinbych. Bydd grantiau ar gael i gefnogi
prosiectau cymwys megis gwella mynediad at amgylcheddau’r
arfordir a’r afonydd.
Prosiect Hyrwyddo a Datblygu Twristiaeth Sir Ddinbych
Rhan I a II
Rhan I
Cyfanswm y Gost: £1,204,173 - Grant UE: £498,770
Rhan II
Cyfanswm y Gost: £1,554,048 - Grant UE: £672,260
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae Sir Ddinbych yn cael ei marchnata dan ddau brif frand - Gororau
Gogledd Cymru a’r Rhyl a Phrestatyn. Bydd y prosiect hwn yn
datblygu a gwella’r brandiau hyn drwy ymgyrch hyrwyddo a datblygu
newydd, cyd-drefnus. Ei brif amcanion yw gwella marchnata, ymchwil
i farchnadoedd newydd a chil-farchnadoedd, hyrwyddo a datblygu,
a gwell dosbarthiad, yn cynnwys dramor, gyda’r nod o gynyddu
y niferoedd o ymwelwyr. Bydd y prosiect yn cael ei weithredu a’i
arwain gan uned twristiaeth Cyngor Sir Ddinbych mewn cydweithrediad
â’r cyrff twristiaeth cenedlaethol a rhanbarthol a’r
sector preifat.
Bydd Rhan 2 yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd a’r cryfderau
a glustnodwyd gan brofiadau Rhan 1, ac yn ymdrechu i fanteisio ar
farchnadoedd newydd sy’n dod i’r fei a llwybrau newydd
at farchnata. Mae’r cais Rhan 2 hwn yn cynnwys Sir Ddinbych
gyfan ac yn mynd i’r afael â dwy ardal farchnata arfordir
a chefn gwlad Sir Ddinbych.
‘ENCHANT’
– “Enhancing Nant Clwyd House To Advance Niche Tourism”
Cyfanswm y Gost: £707,000 - Grant UE: £213,600
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Nod y prosiect hwn yw creu atyniad newydd i ymwelwyr yn Rhuthun.
Mae’n golygu addasu Ty^ Nant Clwyd, ty^ tref gradd 1 sy’n
dyddio o gyfnodau canoloesol, Tuduraidd a Stiwartaidd a saif o fewn
ardal gadwraeth bwysig Rhuthun. Cynllun dehongli fydd yr atyniad,
yn defnyddio treftadaeth ddiwylliannol, hanesyddol a phensaernïol
gyfoethog Rhuthun fel modd o gynyddu niferoedd a gwariant ymwelwyr
a chyfrannu at dwf economaidd y dref ar ardal lleol.
Creu Ardaloedd Dyfriog Agored ar gyfer Hamdden ac Adloniant:
Llangollen
Cyfanswm y Gost: £1,628,622 - Grant UE: £633,622
Noddwr Dyfrffyrdd Prydeinig
Nod cyffredinol y prosiect yw hyrwyddo twristiaeth gynaladwy drwy
integreiddio rheolaeth camlas Llangollen a’i chyffiniau, er
mwyn ffyniant economaidd a chymdeithasol yr ardal. Mae’r prosiect
yn darparu cyfleuster angori 32 angorfa, 48 awr pwrpasol i gwrdd
â’r galw presennol a’r galw yn y dyfodol yn Llangollen.
Bydd y cyfleuster yn galluogi cychod sy’n cyrraedd Llangollen
i angori dros nos yn y dref; gan ganiatáu i bobl ymweld â
Llangollen a’i hatyniadau eraill tra hefyd yn gwella amgylchedd
naturiol yr ardal, drwy ail-leinio’r sianel a’r gwely
presennol, plannu coed brodorol a darparu cynefinoedd nythu a bwydo
addas ar gyfer amrywiaeth o fywyd gwyllt. Bydd hyn yn tanlinellu
tref Llangollen fel un o’r dyfrffyrdd criwsio mwyaf poblogaidd
yn rhwydwaith Dyfrffyrdd Prydain.
Rhaglen Gwella Ymwelwyr Rhuddlan
Cyfanswm y Gost: £692,951 - Grant UE: £245,000
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Fe gyllidodd y prosiect welliannau i’r amgylchedd ffisegol
ym mhentref canoloesol Rhuddlan i annog mwy o dwristiaeth, i annog
datblygiad twf busnes lleol. Mae y camau hyn wedi creu cyfle cystadleuol
i bentref a effeithiwyd yn ddrwg gan ddatblygiadau y tu allan i’r
dref. Mae y prosiect wedi gwella’r amgylchedd ffisegol yn
Rhuddlan, ac wedi hyrwyddo twristiaeth ac y gobaith yw y bydd hyn
yn gatalydd ar gyfer buddsoddiad preifat pellach.
SeiberSgiliau ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig Rhan I
a II
Rhan I
Cyfanswm y Gost: £469,338 - Grant UE: £193,200
Rhan II
Cyfanswm y Gost: £341,704 - Grant UE: £150,349
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae Seibersgiliau yn darparu cyngor TGCh sy’n canolbwyntio
ar fusnes, cefnogaeth a hyfforddiant canlyn ymlaen i Fentrau Bach
a Chanolig. Bydd o gymorth wrth godi’r ymwybyddiaeth o’r
potensial a gynigir gan TGCh i gynyddu proffidioldeb busnesau a
chynyddu nifer y bobl sy’n derbyn hyfforddiant sgiliau TGCh
cysylltiedig uchel ei ansawdd. Mae’r prosiect yn gwneud defnydd
o ganolfan flaengar yn Ninbych a bydd yn darparu gwasanaethau estyn
allan mewn mannau eraill. Mae Seibersgiliau hefyd yn defnyddio technolegau
dysgu hyblyg aml?gyfrwng newydd i ddarparu cymorth TGCh i bobl ar
adegau ac mewn mannau sy’n gyfleus iddynt hwy. Drwy gadw i
fyny â’r byd TGCh newidiol gall Seibersgiliau gynorthwyo
busnesau lleol wrth ennill mantais gystadleuol.
Y Fantais Gymreig
Cyfanswm y Gost: £37,387 - Grant UE: £15,701
Noddwr Menter Iaith Dinbych
Prif nod y prosiect yw hyrwyddo hunaniaeth ddiwylliannol ac ieithyddol
fel ffynhonnell gweithgaredd economaidd werthfawr yn Sir Ddinbych.
Mae yn cyflogi swyddog i Sir Ddinbych a sydd yn bwynt cyswllt gogyfer
â phob mater yn ymwneud â’r Gymraeg o fewn busnesau
lleol. Mae y swyddog yn cyflwyno gwybodaeth am gynlluniau grant
sydd ar gael ar gyfer defnyddiau ac arwyddion dwyieithog, yn cynorthwyo
gyda cheisiadau grant, yn helpu busnesau gyda chyfieithiadau byr
ac yn cynnig cynllun ble gall cyfieithiadau gael eu darparu gan
gwmnïau cyfieithu lleol. Mae y swyddog hefyd yn trefnu dosbarthiadau
Cymraeg yn y gweithle drwy gydweithredu â chanolfannau Cymraeg
i Oedolion lleol ac yn trefnu seminarau a fydd yn codi ymwybyddiaeth
o fudd defnyddio’r Gymraeg fel erfyn marchnata i fusnesau
fel siop un alwad i wasanaethu’r ardal.
Plas Newydd Maids
Cyfanswm Cost - £170,245 - Grant UE - £85,122
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r prosiect hon yn cynnwys yr adnewyddiad ar gwellianau
o cyfleusterau o adeilad gradd II sydd wedi ei rhestru – Plas
Newydd yn Llangollen. Fe fydd y prosiect yn enahgu yr atyniad i
ymwelwyr drwy adnewyddu rhan or tir a’r adeiladau, gan creu
lleoliad tu fewn i achlysurau ac yn darparu mwy o lefydd parcio
ceir. Fe fydd hyn yn rhoi cyfle i’r atyniad i gynyddu gweithgaredd
economaidd a cynyddu y niferoedd o ymwelwyr.
Rhuthun a Llangollen, Ie! (RALLY)
Cyfanswm Cost - £288,00 - Grant UE - £84,000
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae y prosiect wedi ei dynodi i rhwystro dirywiad economaidd Rhuthun
a Llangollen, dwy gymdeithas sydd wedi dioddef yn y gorfennol o
ddifyg hysbyseb o beth sydd ganddynt i’w gynnig. Y gobaith
yw y bydd y prosiect yn dangos y manteision o gefnogi busnesau lleol
ac o hybu ffynhonnellau lleol o nwyddau trwy farchnadoedd, achlysurau
ac ymgyrchoedd. Fe fydd pencampwr busnes yn cael ei gyflogi i’r
ddwy gymdeithas, a’i rol fydd i helpu partneriaethau i ymchilio’r
farchnad, helpu gyda gweithgareddau hybu ac gweithio i symud rhwystrau
i dwf economaidd. 
Hyfforddiant
Canolfan
Ddysgu Dinbych
Cyfanswm y Gost: £1,666,484 - Grant UE: £792,511
Noddwr Coleg Llandrillo
Mae’r ganolfan bwrpasol hon yn amcanu at ddarparu pecyn cyfleoedd
dysgu i gyflogwyr, i’r rheini sydd mewn gwaith ac i’r
di?waith, yn cynnwys cyrsiau cyfrifiadur, dosbarthiadau iaith a
chrefftau a rhaglenni penodol ar gyfer busnesau yn yr ardal. Mae’n
amcanu at gyflenwi pobl â dewisiadau gwirioneddol yn y ffordd
y maent yn dysgu. Rhan bwysig o’r ganolfan fydd y rhan Technoleg
Gwybodaeth a fydd yn cyflenwi’r gymuned â mynediad anffurfiol
at gyfrifiaduron, yn cynnwys y rhyngrwyd, e-bost ayb.
Cyfleusterau Hyfforddi ar gyfer Datblygu Diwydiant sy’n
Seiliedig ar y Tir
Cyfanswm y Gost: £555,140 - Grant UE: £266,466
Noddwr Coleg Llysfasi
Bydd y cynllun yn datblygu cyfleusterau ardderchog newydd i gyflwyno
hyfforddiant yn effeithiol, gan gynorthwyo unigolion a busnesau
mewn diwydiannau sy’n seiliedig ar y tir i wynebu sialensau
dirywiad economaidd. Darperir hyfforddiant a chefnogaeth drwy dechnegau
newydd i wella effeithlonrwydd ac arloesedd i gynorthwyo adfywiad
economaidd mewn ardaloedd gwledig, yn cynnwys dysgu â chefnogaeth
TGCh a chyfleoedd dysgu hyblyg sy’n seiliedig ar TGCh.
Neuadd Bentref Ddigidol i Ferched
Rhan I
Cyfanswm y Gost: £321,789 - Grant UE: £500,762
Rhan II
Cyfanswm y Gost: £253,110 - Grant UE: £154,373
Noddwr Interactive Rhyl Ltd
Mae’r ganolfan gymunedol ddigidol i ferched yn agor cyfleoedd
newydd i ferched i dderbyn hyfforddiant a fydd yn rhoi cyfle i ferched
cael swyddi mewn sectorau uwch cyflog ac i hunan gyflogaeth yn y
sector TGCH. Mae darparu awyrgylch anffurfiol, cynhwysol yn amcanu
at ddenu merched a all weld sefydliadau hyfforddi ffurfiol yn amhersonol
a bygythiol.
Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd
Cyfanswm y Gost: £43,811 - Grant UE: £21,467
Noddwr Coleg Llandrillo
Nod y prosiect yw galluogi’r rheini sydd â mynediad
cyfyng a fawr ddim profiad blaenorol o ddysgu ôl-16, i gael
mynediad a chefnogaeth o fewn eu cymuned agosaf. Mae’n cynnig
y cam cyntaf yn ôl i ddysgu drwy annog gweithgareddau dysgu
drwy Raglenni Dysgu Teuluol sydd mewn bod a rhai newydd. Mae’r
prosiect yn gweithredu ar sail amserlen hyblyg a fydd yn galluogi’r
unigolion sy’n elwa i dderbyn rhaglenni hyfforddi unigol.
Mae hefyd yn rhoi cyfle i rieni ddysgu gyda’u plant ac fel
yma datblygu eu hunain a gallu eu plant i ddysgu.
Sgiliau ar gyfer Bywyd Dau
Cyfanswm y Gost: £129,979 - Grant UE: £58,746
Noddwr Crest Co-operative Ltd
Mae Sgiliau ar gyfer Bywyd Dau yn brosiect wedi’i seilio ar
waith. Mae’n darparu hyfforddiant ar gyfer yr ifanc (14 i
30), pobl ddifreintiedig, anabl, anystywallt a chymdeithasol eithriedig
mewn cymunedau lleol. Mae’r prosiect wedi cynnal cyrsiau hyfforddi
yn Ward Gorllewin Y Rhyl ble mae cefnogaeth ddwys a chadarnhaol
gan yr hyfforddwyr a gan grwpiau cyfoedion. Mae’n darparu
camau at gyfleoedd gwaith pellach ac hyfforddiant.
Hyfforddiant Community Autos
Cyfanswm y Gost: £100,700 - Grant UE: £40,280
Noddwr Coleg Llandrillo
Roedd y prosiect hwn yn hwyluso trawsnewidiad pobl ifanc i waith
drwy’u helpu hwy i glustnodi a chyflawni nodau dysgu a nodau
gyrfa. Mi roedd rhaglen ddysgu wedi’i chynllunio i lunio pecyn
integredig cynhwysfawr o amgylch unedau galwedigaethol mewn cynnal
a chadw cerbydau modur, a thrwy hynny alluogi’r rhai sy’n
elwa i ennill sgiliau galwedigaethol yn ogystal â’r
sgiliau allweddol a meithrin hyder.
Atebion Hyfforddiant Mentrau Bach a Chanolig
Cyfanswm y Gost: £771,404 - Grant UE: £340,954
Noddwr Coleg Llandrillo
Mae anghenion hyfforddi a gallu hyfforddi yn gwahaniaethu ar draws
sbectrwm Mentrau Bach a Chanolig. Mae rhai’n hyfforddi’n
strategol yn unol â’u cynlluniau busnes, mae eraill
yn ymateb i newid trefniadol neu dechnolegol ac eraill yn gwneud
dim o gwbl. Bydd y prosiect hwn yn darparu "ateb hyfforddi
cyfan" gan baru anghenion busnes gyda rhaglen hyfforddi gynhwysfawr
a hyblyg.
Cyfleoedd Newydd
Cyfanswm y Gost: £225,798 - Grant UE: £143,758
Noddwr Coleg Llandrillo
Mae’r prosiect yn amcanu at wella cyfranogiad 192 o ferched
yn y farchnad lafur drwy ddarparu sgiliau rheolaeth a TG yn arwain
at gymwysterau Lefel 3. Yn ogystal bydd y prosiect yn cyflwyno canlyniadau
meddal megis meithrin hyder, cyfathrebu a gweithio ar y cyd.
‘ASPIRE’
Cyfanswm y Gost: £745,095 - Grant UE: £440,975
Noddwr Coleg Llandrillo
Mae’r prosiect yn hyrwyddo ac yn ymestyn mynediad at ddysgu
drwy hwyluso dilyniant i rai sy’n elwa o’r newydd a’r
rhai sydd wedi elwa o’r blaen o grant ESF ymlaen i cael y
cyfle i waith neu ddysgu pellach. Y nod yw cefnogi cymunedau lleol
i gyflawni eu dyheadau am ansawdd bywyd da drwy ddarparu hyfforddiant
lleol a chyfleoedd dilyniant â chefnogaeth
Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â materion cyflogadwyedd
drwy ddarparu gwaith â chefnogaeth a sesiynau blasu a hyfforddiant
galwedigaethol i’r rheini sydd wedi dechrau’n ddiweddar
ar gyrsiau blasu lleol.
Menter Merched
Cyfanswm y Gost: £597,681 - Grant UE: £382,514
Noddwr Coleg Llandrillo
Mae’r prosiect yn adeiladu ar y prosiect presennol drwy gyflwyno
cyrsiau trawsgwricwlaidd i ferched sy’n cyfuno sgiliau menter
a hunan-gyflogaeth gyda sgiliau galwedigaethol megis gwaith plymer
a phaentio a phapuro. Bydd yr ail ran hon yn cyflwyno lleoliadau
gwaith i’r rhai sy’n elwa o hyfforddiant mentora i gyflogwyr.
Mae’n amcanu at gyflenwi merched â’r sgiliau a’r
hyder i fynd i mewn i hunan/ gyflogaeth mewn meysydd galwedigaethol,
ble maent yn draddodiadol wedi bod heb gynrychiolaeth ddigonol e.e.
electroneg, cerbydau modur. Bydd y prosiect yn cyflwyno cyrsiau
trawsgwricwlaidd sy’n cyfuno sgiliau menter a hunan-gyflogaeth
gyda sgiliau galwedigaethol.
Gweithio
Tuag At Gyflogaeth
Cyfanswm y Gost: £930,021 - Grant UE: £525,292
Noddwr Mind Dyffryn Clwyd
Mae’r prosiect wedi’i gynllunio fel cynllun lleoliad
gwaith i roi cyfleoedd gwaith i bobl sy’n dioddef gan broblemau
iechyd meddwl, a’i amcan yw cael y rhai sy’n elwa i
mewn i waith a/neu hyfforddiant prif ffrwd yn araf deg. Mae’r
cynllun gwaith yn meithrin hyder a rhan hanfodol o’r cynllun
yw cefnogaeth a hyfforddiant wedi’i gysylltu â chyflogadwyedd.
Mae hyn yn ffordd arloesol o fynd ati i helpu grw^p anabl, difreintiedig
o bobl.
Gweithdy Merched Y Rhyl
Cyfanswm y Gost: £640,322 - Grant UE: £315,844
Noddwr Coleg Llandrillo
Prosiect estyn allan sy’n amcanu at gyflenwi merched â
sgiliau galwedigaethol a sgiliau busnes a hunan-gyflogaeth i ferched
mewn sectorau o’r economi ble mae dynion yn tra-arglwyddiaethu.
Mae pob un sy’n elwa yn astudio cwricwlwm craidd a gyda chyfarwyddyd
yn dewis maes astudio galwedigaethol opsiynol. Mae’r prosiect
yn darparu hyfforddiant mewn amgylchedd cyfeillgar i ferched yn
ystod oriau cyfeillgar i deuluoedd ac yn ogystal â hyn yn
cynnig gofal dibynyddion/plant am ddim, teithio am ddim, gweithiwr
cefnogi un-pwrpas, mynediad at gynghorydd cymwysedig, a chyngor
budd-daliadau a thai annibynnol. 
Adfywio
Cymdeithas
Rhwydwaith Gwledig Sir Ddinbych
Cyfanswm y Gost: £150,000 -Grant UE: £300,000
Noddwr Cadwyn Clwyd
Mae’r prosiect hwn yn cefnogi prosiectau a arweinir gan y
gymuned bentrefi gwledig yn Sir Ddinbych, gyda’r nod cyffredinol
o wella’r economi leol. Gweithredir y prosiect ar lefel gymunedol
gyda phedwar Grwp Gweithredu Cymunedol sy’n seiliedig ar ardaloedd
yn gweithredu ar lefel sylfaenol yn Nyffryn y Ddyfrdwy, Hiraethog,
Bryniau Clwyd a Dyffryn Clwyd.
Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar: 
- Hwyluso mynediad at wasanaethau
- Sicrhau bod y dreftadaeth wledig yn cael ei diogelu a’i
gwarchod
- Annog gweithgareddau i dwristiaid a chrefftau
Cronfa Allweddol Gymunedol Sir Ddinbych Rhan I a II
Rhan I
Cyfanswm y Gost: £587,507 - Grant UE: £385,888
Rhan II
Cyfanswm y Gost: £639,169 - Grant UE: £419,934
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae y prosiect yn darparu arian fel bod modd dyfarnu grantiau cyfalaf
i brosiectau a arweinir gan y gymuned sy’n ceisio gwella ansawdd
bywyd a chryfhau gallu o fewn cymunedau mwyaf difreintiedig Sir
Ddinbych. Mae yn annog cyfranogiad pobl leol mewn gweithgareddau
sy’n gwella eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol yn lleol.
Mae gweithgareddau cymwys yn cynnwys camau corfforol; amgylcheddol,
diwylliannol, cymdeithasol ac economaidd sy’n ceisio cefnogi’r
rhai sy’n elwa wrth gyflawni lefelau uwch o ymrwymiad cymdeithasol
ac economaidd. Mae’r ail ran yn cynnwys elfen o gyllid refeniw
sydd ei angen i hyrwyddo neu 'gic-danio' y prosiect.
Cronfa Allweddol Wledig Sir Ddinbych Rhan I a II
Rhan I
Cyfanswm y Gost: £435,204 - Grant UE: £182,798
Rhan II
Cyfanswm y Gost: £471,636 - Grant UE: £198,087
Noddwr
Cyngor Sir Ddinbych
Cais partneriaeth a wnaed gan Gyngor Sir Ddinbych, Cyngor Gwasanaethau
Gwirfoddol Sir Ddinbych a Cadwyn Clwyd i sefydlu cronfa i gefnogi
mentrau a arweinir gan y gymuned sy’n ceisio gwella cryfder,
gallu ac ansawdd bywyd o fewn cymunedau gwledig yn Sir Ddinbych
yw hwn.
Bydd y gronfa’n cefnogi gweithgareddau sydd â phwyslais
penodol ar fudd cymunedol, yn cynnwys cefnogaeth a chyngor i fudiadau
a mentrau cymunedol; mentrau amgylcheddol cymunedol; cludiant cymunedol,
cyfleusterau dibynyddion a gofal plant; gwyliau lleol a mentrau
diwylliannol; Mentrau TGCh; mesurau meithrin gallu. Bydd Rhan 2
yn parhau gwaith Cronfa Allweddol Wledig Sir Ddinbych fel bod modd
dyfarnu grantiau Cyfalaf a Refeniw i fentrau a arweinir gan y gymuned.
‘FFORCE’ – “Fforddlas Community
Enterprise”
Cyfanswm y Gost: £424,831 - Grant UE: £211,415
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae’r prosiect, drwy ddarparu unedau pwrpasol newydd, yn cefnogi
creu ac ehangu cyfleoedd yn yr economi gymdeithasol. Fe fydd hyn
yn helpu i fynd i’r afael â phroblem eithrio cymdeithasol
drwy greu gwaith a chyfleoedd dysgu. Mae’r prosiect wedi’i
leoli ar safle tir llwyd yn Ne-Orllewin Y Rhyl. Mae’r prosiect
wedi’i ddatblygu mewn ymateb i alw a ganfuwyd am gyflogaeth
mentrau cymunedol a lleoedd datblygu isel eu cost addas a bydd yn
cefnogi gweithgaredd cymunedol i wella’r sylfaen sgiliau leol,
i greu gwaith a darparu gwasanaethau o arwyddocâd cymdeithasol,
economaidd ac amgylcheddol.
Canolfan Fenter Fforddlas
Cyfanswm y Gost: £653,302 - Grant UE: £261,320
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Mae Canolfan Fenter Fforddlas yn ddatblygiad strategol ar safle
tir llwyd. Bydd yn creu cyfleoedd gwaith, yn gwella’r amgylchedd
lleol ac yn dod â thua 513 metr sgwâr/5,520 troedfedd
sgwâr o eiddo sydd ar hyn o bryd yn wag i ddefnydd economaidd
cynhyrchiol ynghyd â 6 uned sydd newydd eu hadeiladu gan gynnig
ryw 479 metr sgwâr /5,156 troedfedd sgwâr o arwynebedd
cyflogaeth ychwanegol. Bydd eiddo gwag a ddeuir yn ôl i ddefnydd
yn cynnwys 2x256 metr sgwâr/2,760 troedfedd sgwâr o
unedau ehangu busnesau mawr. Bydd arwynebedd cyflogaeth ychwanegol
a grëir gan y prosiect yn cynnwys 2x68.5 metr sgwâr/737
troedfedd sgwâr o unedau ehangu a 4x85.5 metr sgwâr
/920 troedfedd sgwâr o unedau ehangu.
Tîm 1 Adfywio Cymunedol
Cyfanswm y Gost: £163,406 - Grant UE: £104,580
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Bydd y prosiect hwn yn datblygu hyder, sgiliau ac agweddau cadarnhaol
pobl sy’n byw yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Sir Ddinbych.
Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy ddarparu addysg a chefnogaeth
anffurfiol i weithgareddau cymunedol sy’n cynnwys creu pum
Canolfan Dysgu Gydol Oes. Bydd yn cael ei arwain gan yr egwyddorion
fod datblygu cymunedol yn cynnwys pawb sydd wedi’u hanfanteisio
gan gymdeithas. Bydd y cynigion yn sicrhau bod grwpiau perthnasol
yn cael eu cynnwys mewn partneriaeth leol; bod rhwydweithiau’n
cael eu hysbysu’n llawn o ddatblygiadau, cynorthwyo grwpiau
sy’n mynd i’r afael â rhwystrau i gynhwysiad yn
uniongyrchol.
Creu Partneriaethau i Alluogi Cymunedau
Cyfanswm y Gost: £164,713 - Grant UE: £121,888
Noddwr Cyngor Sir Ddinbych
Prif nod y prosiect yw lleihau eithrio cymdeithasol a mwyhau diogelwch
cymunedol yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yn Sir Ddinbych. Mae’r
prosiect yn annog ac yn datblygu strategaethau a phrosiectau o’r
gwaelod i fyny er mwyn galluogi cymunedau. Bydd hyn yn cael ei gyflawni
drwy ymdrechion cydweithrediadol Cyngor Sir Ddinbych/Asiantaeth
Gymunedol Y Rhyl/ Strategaeth Gymunedol Gorllewin a De-Orllewin
Y Rhyl sydd wedi clustnodi’r angen i ddarparu adnoddau ychwanegol
i gynorthwyo yn adfywiad economaidd-gymdeithasol y cymunedau a grybwyllwyd
uchod.
‘Action Research in Community Led Development –
REACH’
Cyfanswm y Gost: £58,451 - Grant UE: £33,451
Noddwr Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
Cynnig ymchwil weithredu i redeg o fewn datblygiad a arweinir gan
y gymuned yn Ninbych y gwaneth y prosiect hwn. Fe fu yn gweithredu,
dros dri safle, brosiect ieuenctid, prosiect teuluol a phrosiect
cyfranogiad cymunedol. Fe roedd yr elfen ymchwil yn wahanol i lawer
yn yr ystyr fod yr ysgogiad i ddatblygu wedi deillio o’r Gymuned.
Cyfranodd REACH at dwf economaidd drwy wella cyflogadwyedd a photensial
economaidd y Gymuned.
Canolfan Sector Gwirfoddol Neuadd Morfa
Cyfanswm Cost - £1,150,000 - Grant UE - £483,000
Noddwr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Nod y prosiect hwn, yw prynnu ac adnewyddu Neuadd Morfa yn Y Rhyl,
a galluogi y CGGC yng Nhogledd Cymru i wella eu gwasanaeth i’r
sector gwirfoddol a chymdeithasol. Fe fydd y prosiect yn sefydlu
canolfan rhanbarthol i’r sector gwirfoddol a fydd yn mynd
llaw yn llaw gyda gwasanaeth y mae y CGGC yn darparu yn barod yn
y Drenewydd a Caerdydd. Mae y prosiect yn annelu i fod yn agored
i bawb a fe fydd yn darparu nifer o ystafelloed cyfarfod i grwpiau
cymunedol, hyforddiant a cyfleusterau gwethdai gyda mynediad i gyngor
a gwybodaeth. 
|