|
Beth
yw Amcan 1?
Pa ardaloedd sy'n
gymwys?
Beth fydd hyd y
rhaglen?
Faint o arian fydd
ar gael?
Pa fath o brosiectau
sy'n cael eu cefnogi?
Sut mae Amcan
1 yn cael ei gweithredu?
Sut alla'i gael mynediad at
yr arian?
Beth yw Amcan 1?
Amcan 1 yw'r prif cronfa strwythurol ewropeaidd i redeg yng
Ngorllewin Cymru a'r cymoedd. Mae'r ardal yn gymwys i dderbyn cyllid
amcan 1 yr Undeb Ewropeaidd gan fod eu Cynnyrch Domestig Gros (GDP)
yn llai na 75 y cant o gyfartaledd yr UE. Y nod yw lleihau'r gwahaniaeth
hwn drwy hybu twf mewn GDP y pen, twf mewn cyflogaeth achynnydd
mewn gweithgaredd economaidd. 
Pa ardaloedd sy'n gymwys?
Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Ceredigion, Sir
Benfro, Sir Gaerfyrddin, Blaenau Gwent, Merthyr Tudful, Rhondda
Cynon Taf, Castell-Nedd Port Talbot, Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr,
Caerffili, Torfaen.
Beth fydd hyd y rhaglen?
Bydd y rhaglen yn para o 2000 hyd at 2006. Rhaid i prosiectau
derbyn cymeradwyaeth cyn diwedd 2006, ond gall taliadau ar brosiectau
sydd wedi eu cymeradwyo cyn diwedd 2006 barhau tan diwedd 2008.
Faint o arian fydd ar gael?
Bydd tua £1.2bn yn gael ei gyllido gan y Cronfeydd Strwythurol
Ewropeaidd, gyda'r rhaglen cyfan yn costio tua £2.4bn sy'n
cynnwys ffynonellau cyhoeddus a preifat. 
Pa fath o brosiectau sy'n
cael eu cefnogi?
Ehangu a Datblygu'r sylfaen SME
Nod y blaenoriaeth yma yw i cynhyrchu cyfoeth a chyflogaeth ar gyfer
y rhanbarth drwy gefnogi twf sector y mentrau bychan a chanolig
eu maint (SME). Mae'r nod yma'n cefnogi'r Strategaeth Economaidd
10 mlynedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 'A Winning Wales', sy'n
adnabod yr angen i hybu twf busnesau lleol gyda'r gallu i tyfu yn
y dyfodol.
Datblygu Arloesedd a'r Economi sy'n seiliedig ar Wybodaeth.
Nod y blaenoriaeth yma yw i wneud y rhanbarth yn fwy cystadleuol
drwy gaffael a defnyddio gwybodaeth o'r technolegau newydd. Datblygu
diwilliant arloeseddol, ehangu'r sylfaen economaidd drwy tyfu mwy
o fusnesau sy'n seiliedig ar arloesedd a thechnoleg, cefnogi cynydd
mewn ymchwil a datblygiad, datblygu sgiliau i cefnogi arloesedd
ag ymchwil a datblygu, symbylu a chefnogi'r galw am TGCh, gwella
perfformiad amgylcheddol trwy defnyddio technolegau glân.
Adfywio Economaidd Cymunedol
Nod y blaenoriaeth yma yw i frwydro yn erbyn eithrio cymdeithasol
drwy dargedu gweithredu lleol yn y cymunedau mwyaf difreintiedig
er mwyn cynyddu sgiliau a chyflogadwyaeth, darparu gwell mynediad
at gyfleoedd mwy amrywiol a gwella cyfleusterau lleol ar gyfer busnesau.
Mae tri prif nod, i galluogi i bobol o bob cefndir a chymuned i
gymeryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol i cyfrannu tuag at
ag i manteisio ar adfywio'r economi, i gefnogi datblygiadau cymunedol
sy'n cyfrannu tuag at datblygiadau economaidd a chymdeithasol ag
i ateb problemau sy'n atal datblygiadau economiadd gynaliadwy, i
ehangu cyfleoedd a gwasanaethau mewn ardaloedd ffiniol, yn enwedig
yn datblygu rôl busnesau cymdeithasol sy'n cynnig y gwasanaethau
yma.
Datblygu Pobl
Nod y blaenoriaeth yma yw i helpu pobl ddi-waith i fewn i gwaith
cynaladwy, ag i atal eraill rhag fod yn ddi-waith hir-dymor, i hybu
cyfartaledd cyfleoedd ag i helpu atal eithro cymdeithasol. Dylai
gweithgareddau o fewn y blaenoriaeth yma ychwanegu gwerth tuag at
a bod yn ychwanegol i polisiau'r cynulliad.
Datblygiad cefn gwlad a defnydd gynaliadwy o adnoddau naturiol
Nod y blaenoriaeth yma yw i cyfuno amgylchedd iach wedi ei reoli'n
dda gyda chynhyrchiant economaidd a hyfwedd. Dylai gweithgareddau
o dan y blaenoriaeth yma ceisio ychwanegu gwerth tuag at polisiau
y cynulliad e.g. Cynllyn Datblygu Gwledig, Ffermio i'r dyfodol,
Cyswllt Ffermio, Strategaeth Ffermio a Bwyd Cymru, Polisi Cynllunio
Cymru, Strategaeth Twristiaeth, Cynllyn sgiliau a chyflogaeth i
Gymru 2002.
Buddsoddiad Rhwydwaith Mewnol Strategol
Nod y blaenoriaeth yma yw i sicrhau buddsoddiad a chyflogaeth ychwanegol
ar gyfer yr ardaloedd llai datblygiedig o fewn y rhanbarth drwy
hybu buddsoddiad busnesau mewn ardaloedd gyda chefnogaeth gwelliannau
allweddol i'r rhwydwaith mewnol. Dylai gweithgareddau o dan y blaenoriaeth
yma ceisio ychwanegu gwerth tuag at polisiau'r cynulliad. 
Sut mae Amcan 1 yn cael
ei weithredu?
Mae Amcan 1 yn cael ei weithredu drwy gyfrwng Partneriaethau
a strategaethau. Mae'r partneriaethau hyn yn gweithredu ar dair
lefel; lleol; rhanbarthol; a strategol. Bydd gan pob partneriaeth
fframwaith strategol gytûn ar gyfer ei maes cyfrifoldeb. Mae
ganddi hefyd gorff atebol sy'n darparu cefnogaeth ar gyfer y partneriaeth.
Mae 15 partneriaeth lleol, pob un ohonynt yn cynnwys un ardal awdurdod
lleol. Mae 10 partneriaeth rhanbarthol, pob un yn gyfrifol am thema
(cefnogaeth busnes, rhwydwaith mewnol, adnoddau dynol, arloesedd
ac ymchwil a datblygiad, mentergarwch, economi seiliedig ar wybodaeth
a TGCh, cefn gwlad a choedwigaeth, datblygiad cefn gwlad, twristiaeth,
adfywio economi cymunedol). Prif swyddogaeth y partneriaethau lleol
a rhanbarthol yw cyfrannu at asesiad ansoddol o'r prosiectau.
Mae'n rhaid felly i prosiectau cael eu assesu drwy partneriaeth.
Mae prosiectau sydd am gweithredu o fewn pedwar ardal awdurdod lleol
yn cael ei galw'n prosiect lleol, a dylai cael ei assesu gan y partneriaeth
lleol (fel arfer y partneriaeth o fewn yr ardal mae'r prosiect yn
gwreiddio o, ond gyda cysylltiadau gyda partneriaethau eraill).
Mae prosiectau sydd am weithredu o fewn pump neu fwy o ardaloedd
awdurdodau lleol yn cael ei galw'n prosiectau rhanbarthol. Dylai'r
prosiectau yma cael eu assesu gan y partneriaeth sydd yn delio gyda'r
ardal perthnasol or rhaglen. Fe fydd yn rhaid i'r partneriaethau
lleol ystyried sut mae pob prosiect yn cyfrannu at eu fframwaith
strategol ag os yw'r prosiect yn dyblygu prosiect yn barod mewn
bodolaeth. Byd beirniadau y partneriaethau yn cael eu anfon at WEFO.
Mae WEFO yn gyfrifol am asesu cymhwyster y prosiectau, ac amystyried
sut mae'r prosiectau yn cyfrannu at polisiau rhanbarthol a strategaethau
eraill, asesu gwerth yr arian ag yna yn cyflwno eu barn ynghyd a
rhai a derbynwyd gan y partneriaethau lleol a rhanbarthol i'r partneriaethau
strategol.
Mae yna pedwar partneriaeth strategol sy'n arolygu gweithgaredd
gwahanol rannau'r rhaglen, yn benodol asedau busnes; asedau dynol;
asedau gwledig; ac asedau cymunedol. Prif swyddogaeth y partneriaethau
strategol yw cyfrannu asesiad ansoddol o'r prosiectau i helpu cynorthwyo
gwerthusiad WEFO.
WEFO sydd wedyn yn gyfrifol am anfon llythyrau cymeradwyaeth, monitor
ag asesu prosiectau ad i talu ceisiau. 
Sut alla'i gael mynediad
at yr arian?
Mae yna dwy ffordd y gallwch manteisio ar cyllid Amcan 1.
· Uniongyrchol; trwy derbyn cyllid Amcan 1 i rhedeg prosiect
sydd am helpu cyfrannu tuag at blaenoriaethau y rhaglen. Gwelwch
y Broses Gwneud Cais
· Anuniongyrchol; fel cymyndderbynwyr cais Amcan 1 sydd yn
cael ei redeg drwy cylch cyfryngol o fewn y sectorau preifat, cyhoeddus
neu gwirfoddol. Efallai fod hyn o ddefnydd i cwmniau bach sydd yn
gallu derbyn grantiau trwy'r prosiectau yma. Mae rhai o rhain yn
rhedeg o fewn Sir Ddinbych e.e. Cronfa Allweddol Gymunedol Cyfanswm,
Cronfa Allweddol Wledig. Mae'r prosiectau yn caniatau grantiau cyfalaf
i prosiectau sy'n gweithredu'n lleol sy'n gwella safon bywyd ag
yn cryfhau cymunedau o fewn Sir Ddinbych. Gwelwch prosiectau
am fwy o wybodaeth.
|