| Datblygiad
Partneriaeth Lleol Sir Ddinbych hyd yma
Mae rhaglen Amcan 1 Gorllewin Cymru a’r Cymoedd
wedi bod yn gweithredu ers 2000, as mae wedi atynnu adnoddau sylweddol
or UE i cynhorthwyo yn adfywiad o economi y sir. Hyd yn hyn mae
yr allbynnau canlynol wedi digwydd-
- Prosiectau wedi ei cymeradwyo - 59
- Cyfanswn Grant - £27,000,060
- Swyddi gros newydd wedi eu creu – 2,495
- Swyddi gros wedi ei diogelu – 3,410
- SME’s wedi eu cynhorthwyo – 4,689
- SME’s wedi ei creu –125
- Nifer o fuddiolwyr –7,687
- Nifer o fuddiolwyr sydd yn ennill cymwysterau – 1,129
- Nifer o fuddiolwyr mewn swydd ar adael – 573
- Gofod llawr diwydiannol newydd – 17,240 metr sgwar
Os ydych eisio copi or ddogfen sydd a manylion y
datblygiad hyd yma – cysylltwch a Osian Jones ar 01824 708091
neu e-bost osian.Jones@sirddinbych.gov.uk
Prociectau
a Cymeradwywyd yn Ddiweddar
Newyddion
Ffrorwm Rheolwyr Prosiect
Mynychodd nifer o Reolwyr Project seminar hyfforddi
ar drefniadau Hawliadau ac Archwilio Cyllid Ewropeaidd ar 11eg a
12fed Gorffennaf.
Cynhaliwyd y digwyddiad ar y cyd rhwng Partneriaeth
Leol Sir Ddinbych a Phartneriaeth Leol Conwy yng Ngwesty Talardy,
Llanelwy. Darparwyd yr hyfforddiant gan Margaretta Holmstedt o Brifysgol
Bradford, sydd â phrofiad maith o faterion ariannu Ewropeaidd.
Yn ystod y ddau ddiwrnod, ystyriodd y grwp faterion
megis cwblhau ffurflenni cais, rheolau caffaeliad, cymorth y wlad
a chadw cofnodion. Galluogodd yr hyfforddiant i reolwyr newydd a
phrofiadol ddysgu sgiliau newydd ynghyd â medru trafod problemau
a gafwyd gyda'r darparydd hyfforddiant.
Roedd y digwyddiad hefyd yn ddefnyddiol i reolwyr
project rwydweithio gyda rheolwyr project eraill o Sir Conwy, er
mwyn cael trafodaethau pellach mewn perthynas ag arferion da ac
anawsterau tebyg y maent yn dod ar eu traws.
Roedd y digwyddiad yn llwyddiannus, a gobeithir
y bydd fforwm y rheolwyr project yn trafod anghenion hyfforddi pellach
yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn yr Hydref.
Ymweliad
Gwlad Pwyl
Bu Sir Ddinbych yn croesawu ymwelwyr o sir Gliwicki
yng ngwlad Pwyl rhwng 18 - 23 Gorffennaf. Trefnwyd yr ymweliad fel
rhan o drefniant rhwng y ddwy sir i gadarnhau'r cyswllt a wnaed
yn ystod yr ugain mis diwethaf. Croesawodd Gliwicki ddirprwyaeth
o swyddogion Sir Ddinbych ym mis Tachwedd 2004 a orffennodd trwy
lofnodi'r Memorandwm Dealltwriaeth.
Yn ystod yr ymweliad gwahoddodd y Cynghorydd Rhiannon
Hughes swyddogion Powiat Gliwicki i ddod i Sir Ddinbych ym mis Gorffennaf
2005 er mwyn i'r Sir roi croeso'n ôl. Trefnwyd rhaglen i'n
5 ymwelydd sef -
Yr Arweinydd
Y Prif Weithredwr
Trysorydd
2 Gynghorydd.
Roedd yr ymweliad cyntaf yn galluogi ymwelwyr o wlad Pwyl weld trafodaethau
cabinet a'r broses llunio penderfyniadau. Dilynwyd hyn gan gyfres
o ymweliadau a thrafodaethau am Amcan 1 a phrosiectau a noddir gan
wahanol wledydd.
Cytunwyd ar y cyd y dylai'r ymweliad ganolbwyntio
ar feysydd a noddir gan yr Undeb Ewropeaidd, rhannu profiadau ym
maes datblygiad economaidd, addysg a hyfforddiant galwedigaethol,
cynhwysiad cymdeithasol a llywodraeth. Nodwyd y prosiectau posibl
canlynol :-
- Cyswllt adfywio cymunedol sy'n cysylltu cymunedau yn y Rhyl
a Phrestatyn hefo Pyskowice / Knurow (INTERREG);
- Prosiect adfywio busnes ar sail Gyl Fwyd Llangollen (INTERREG);
- Cadwraeth a Thwristiaeth sy'n cysylltu cestyll Dinbych a Chudow
(Culture 2000);
- Gwella prosiect Y Grug a'r Bryniau, Cyngor Sir Ddinbych hefo
prosiect twristiaeth cyffelyb yn Gliwicki (Culture 2000);
- Cyfnewid myfyrwyr iaith dramor yn ECTARC (Leonardo)
- Defnyddio ICT i leihau cynhwysiad cymdeithasol a hyrwyddo cyfle
cyfartal (Leonardo);
- Cyfnewid diwylliant rhwng corau a chynulleidfaoedd St Peters,
Rhuthun a St Catherine, Toszek;
- Cyswllt rhwng Ysgol Uwchradd Prestatyn a Chae Derwen (Corwen)
hefo ysgolion yn Gliwicki.
Ymweliad
Cor Toszeck
Fe fu Cor Toszeck o ardal Silesia yng Ngwlad Pwyl
yn ymweld a Sir Ddinbych rhwng yr 2ail a 6ed o Fehefin. Roedd y
Cor yn ymweld fel gwestail Cor Eglwys Sant Pedr, Rhuthun, a fu yn
ymweld gyda y Cor yn Gwlad Pwyl y flwyddyn diwethatf. Roedd yr ymweliad
yn cynnwys perfformiad yn Gwyl Prestatyn, yn Rhuthun ac yn pabell
S4C yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.
Fe fu y Cor yn aros gyda aelodau Cor San Pedr ac
fe gafwyd hefyd daith lwyddianus o amgylch rhai o atyniadau Gogledd
Cymru. Mae yr ymweliad yn rhan o nifer o fenterau sydd yn gael ei
ddatblygu rhwng Sir Ddinbych a Glwicki yng Ngwlad Pwyl, a’r
gobaith ydi y bydd hyn yn arwain at nifer o prosiectau a chyfnewid
diwyllianol yn y dyfodl.
Ymweliad
Gweision Sifil o Wlad Pwyl
Fe fu dau ymwelydd o lywodraeth Gwlad Pwyl yn ymweld
a Cyngor Sir Ddinbych yn ddiweddar, roeddent ar ymweliad i ddysgu
am weithredau rheoli a monitro prosiectau Ewropeaidd. Mae Magorzata
Szaleniec ac Justyna Potiopa yn swyddogion datblygu sy’n gweithio
i Awdurdod Rheoli Cymorth Technegol sydd yn is adran o Weidyddiaeth
yr Economi rhan or Lywodraeth Gwlad Pwyl, a oedd yma yn Gogledd
Cymru fel rhan o gyfnewid Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru . Fe fu
y ddau ymwelydd yn ymweld a Gyngor Sir Gwynedd a Sir Ddinbych er
mwyn cael mwy o wybodaeth ynglyn a gweithredai a ddefnyddwyd gan
y weinyddiaeth lleol yn eu gwaith ar Amcan 1.
Gweddnewid
y perl yng nghoron Rhuthun
Mae adeilad a oedd yn dechrau mynd yn adfail yng
nghanol tref Rhuthun wedi cael ei weddnewid yn unedau busnes newydd
sbon.
Llwyddwyd i weddnewid T?'r Goron, adeilad rhestredig ffrâm
bren yn dyddio'n ôl i'r ail ganrif ar bymtheg, gyda chymorth
ariannol gwerth £640,000 o raglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd
a Chronfa Adfywio Lleol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae'r adeilad yn Stryd y Ffynnon wedi'i ailwampio i ddarparu unedau
busnes modern o'r radd flaenaf, yn cynnwys cyfleusterau hyfforddiant,
micro unedau i fusnesau eu rhentu, caffi seiber a chyfleusterau
i ddarparu gwybodaeth fusnes drwy wasanaeth Llygad Busnes Llywodraeth
Cynulliad Cymru.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd Rhiannon Hughes:
"Rydym yn falch iawn fod y gwaith wedi'i gwblhau i safon mor
uchel a bod adeilad a oedd yn destun cwynion gan drigolion lleol
yn y gorffenol wedi'i weddnewid.
"Y rhai sy'n mynd i elwa fwyaf o'r datblygiad newydd yw busnesau
gwledig sy'n sefydlu o'r newydd ac yn chwilio am swyddfa neu weithdy;
busnesau amaethyddol sy'n dymuno arallgyfeirio a grwpiau cymunedol
a chymunedau gwledig a fydd yn cael cyfle i ddefnyddio'r cyfleusterau
Technoleg Gwybodaeth a'r cyfleusterau hyfforddiant."
Meddai'r Cynghorydd Elwyn Edwards, Cadeirydd Partneriaeth
Amcan Un Sir Ddinbych: "Hoffwn longyfarch y Cyngor ar weddnewid
yr adeilad hwn. Mae'n enghraifft arall o sut mae arian Amcan Un
yn gwneud gwahaniaeth mawr yn Sir Ddinbych. Disgwylir i gynlluniau
a gyllidir drwy'r rhaglen gael effaith fawr ar gymunedau ar draws
Sir Ddinbych a bydd yn diwallu'r galw mawr am unedau busnes ac yn
cynorthwyo i roi hwb i'r economi leol."
Y Rhyl yn
Symud Ymlaen gydag arian Ewropeaidd gwerth miliynau
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn dathlu ei ddyraniad unigol
mwyaf o gyllid Ewropeaidd yn dilyn cyhoeddi manylion am grant gwerth
£2.9 miliwn i'r Rhyl.
Bydd Andrew Davies, Gweinidog y Cynulliad Cenedlaethol
dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth yn cyhoeddi heddiw (Ddydd
Iau) y cymeradwywyd £2.9 miliwn o gyllid Ewropeaidd Amcan
1 i'r prosiect Y Rhyl yn Symud Ymlaen.
Gydag ariannu cyfatebol gan Gyngor Sir Ddinbych
ac Awdurdod Datblygu Cymru mae'r cyllid yn golygu y gellir bwrw
ymlaen â Pharc Drifft gwerth £3.8m ar y promenâd,
gyda £0.9m ar gyfer rhan gyntaf ailddatblygu Harbwr y Foryd
a £1m i greu unedau busnes. Bydd y prosiect Parc Drifft yn
gweld ailwampio ac uwchraddio tua saith erw o ochr orllewinol y
promenâd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ddinbych, y Cynghorydd
Rhiannon Hughes: "Dyma'r cyhoeddiad am y swm unigol mwyaf o
gyllid Ewropeaidd i'w ddyrannu i Gyngor Sir Ddinbych erioedd. Ar
y cyd â'r partneriaid byddwn yn chwistrellu £5.7m i
economi'r Rhyl. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y prif ardaloedd
dadfeiliedig ar hyd Rhodfa'r Gorllewin a Harbwr y Foryd. Bydd y
prosiect yn adfer elfen atyniadol y cyrchfan twristaidd pwysig hwn
ac yn dechrau ar y gwaith o ailwampio Harbwr y Foryd fel ei fod
yn chwarae rhan lawn yn y broses o adfywiad economaidd y Rhyl.
"Mae'r newyddion calonogol yma yn dod â
chyfanswm yr arian o Gronfeydd Strwythurol Amcan 1 ac ariannu cyfatebol
i'r Rhyl i bron i £15m. Mae hyn yn cynrychioli buddsoddiad
sylweddol gan bartneriaeth eang, yn cwmpasu holl feysydd yr economi
ac yn cynnwys buddsoddiad cyfalaf mewn adeiladau ac isadeiledd yn
ogystal â hyfforddiant a chefnogaeth i weithgareddau cymunedol
a mentrau cymunedol, a fydd yn cynorthwyo i sicrhau bod y Rhyl yn
symud ymlaen."
Disgwylir y bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn
y Rhyl yn ystod tymor yr Hydref 2005 ac y bydd yr holl waith wedi'i
gwblhau cyn diwedd 2007.
Meddai Cyfarwyddwr Corfforaethol yr Amgylchedd Cyngor
Sir Ddinbych, Iwan Prys Jones, sydd hefyd yn arwain Partneriaeth
y Rhyn yn Symud Ymlaen: "Mae hyn yn newyddion gwych i'r Bartneriaeth
y Rhyl yn Symud Ymlaen. Mae'r cais llwyddiannus am arian yn cynrychioli
ymdrech ar y cyd gan y bartneriaeth gyda'r cyllid yn dod o nifer
o ffynonellau yn y bartneriaeth, yn cynnwys Awdurdod Datblygu Cymru.
"Mae'r cyllid Ewropeaidd yma yn gwneud y bartneriaeth
yn realiti a byddwn yn ceisio datblygu'r prosiectau er mwyn lleihau
effaith y gwaith adeiladwaith sylweddol yma ar y gymuned ac ar yr
economi. Cynhaliwyd proses ymgynghori hir wrth ddatblygu'r ceisiadau
ac rwy'n falch iawn at ymateb cadarnhaol iawn y gymuned i'r prosiectau
hyn ac rwy'n siwr y bydd yr hyn fydd yn deillio o hyn yn cael derbyniad
da drwy'r Rhyl."
Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield, Maer y Dref:
"Mae hwn yn newyddion da i'r Rhyl. Rydym wedi gweithio'n agos
gyda'n gilydd i ddatblygu'r prosiectau hyn dros nifer o flynyddoedd
ac mae'n rhagorol gweld y byddant yn cael eu gwireddu o'r diwedd."
Llyfryn Amcam
1
Mae partneriaeth Amcan 1 Sir Ddinbych yn ddiweddar
wedi cyhoeddi llyfryn yn pwysleisio effaith Acan 1 ar y sir ers
pan gychwynnodd y rhaglen yn 2000. Fe lansiwyd y llyfryn gan Aelod
Seneddol Ewropeaidd Eluned Morgan a’r Cyngohrydd Rhiannon
Hughes. Mae’n cynnwys gwybodaeth ar bob project a ddatblygwyd
yn llwol yn y sir, ynghyd â gwybodaeth ar broject a gyflwynwyd
I Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru a gwybodaeth bellach ar brojectau
aml-ranbarthol. Os hoffech dderbyn copi, cysylltwch gyda’r
ysgrifenyddiaeth yn osian.Jones@sirddinbych.gov.uk
neu ffonio 01824 708091 I archebu copi.
Cefnogaeth
i Arloesi Y&D - Mae'r tudalen hon yn y broses
o gael ei gyfieithu. I weld y fersiwn Saesneg cliciwch
yma.
Archif
Newyddion 2004
Archif
Newyddion 2003
Archif Newyddion
2002
|