...datblygiadau rhanbarthol

 

Datblygiadau Rhanbarthol

Mae Partneriaethau Ardal yn delio gydag ardal pob Awdurdod Lleol, ac mae'r aelodau'n cael eu dewis yn gyfartal o sectorau cyhoeddus, gwirfoddol a chymdeithasol. Maent yn gyfrifol am ddatblygu strategaethau lleol yn unol â strategaeth gyffredinol y rhaglen. Maent yn hybu'r rhaglen yn lleol a darparu ôl-ofal i brojectau sydd wedi eu cymeradwyo.

Mae'r grwpiau hyn yn gyfrifol am gynghori WEFO ar gyfeiriad strategol a'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau yn y maes Amcan 1 maent yn gyfrifol amdano. Daeth y Grwpiau Ymgynghorol Thematig (GYT) i fodolaeth yn Ionawr 2004 o ganlyniad i symleiddio'r broses, ac maent yn disodli’r Partneriaethau Rhanbarthol a Strategol presennol. Maent yn gyfrifol am gynghori Swyddfa Ariannu Ewropeaidd Cymru (WEFO) a gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o'r arian sydd ar ôl. Mae rhwng 10-14 aelod ym mhob grwp ac mae chwe GYT, yn delio gyda phob un o'r blaenoriaethau yn Amcan 1.

 

Grwpiau Ymgynghorol Thematig (GYT)

Y 6 Grwp Thematig

Grwp 1: Cefnogaeth Busnes ar gyfer SME (Blaenoriaeth 1 - Ehangu a Datblygu'r Sylfaen SME)

Grwp 2: Blaengaredd TGCh ac Y&D (Blaenoriaeth 2 - Datblygu menter a'r economi seiliedig ar wybodaeth)

Grwp 3: Adfywiad Economaidd Cymunedol (Blaenoriaeth 3 - Adfywiad Economaidd Cymunedol)

Grwp 4: Addysg, Hyfforddiant a Sgiliau (Blaenoriaeth 4 - Datblygu Pobl)

Grwp 5: Gwledig (Blaenoriaeth 5 - Datblygu ac Adnoddau Naturiol Cynaliadwy)

Grwp 6: Isadeiledd (Blaenoriaeth 6 - Datblygu Isadeiledd Strategol (gan gynnwys ynni o Flaenoriaeth 2).

Mae gan y Grwpiau Ymgynghorol Thematig gyfrifoldeb o ben i ben ar gyfer cynghori WEFO ar gyfeiriad strategol a defnydd mwyaf effeithiol adnoddau sydd ar ôl yn y meysydd Rhaglen maent yn gyfrifol amdanynt. Eu rôl yw:

  • Cynghori ar flaenoriaethau strategol ar gyfer ariannu ym mhob Mesur, yn cynnwys Blaenoriaeth Rhaglen a chymryd y rhain i ystyriaeth;
  • Darparu asesiad ansoddol i WEFO ar bob project fel rhan o werthusiad o'r project hwnnw (fel sy'n ofynnol dan Bennod 10 SPD), a
  • Monitro a gwerthuso cyflwyniad cyffredinol y Flaenoriaeth.

Mae'r rôl hefyd yn cynnwys cynghori ac adrodd fel y bo angen i Bwyllgor Monitro'r Rhaglen ar bynciau penodol a'u gwaith yn gyffredinol.

Am wybodaeth bellach ar y Grwpiau Ymgynghorol Thematig, gweler WEFO os gwelwch yn dda.

cartref | dogfennau cyfeiriol |broses gais |prosiectau llwyddannus |datblygiadau sectorol
mentrau cymunedol (UE) | ffyniant allanol | grantiau ar gael | datblygiadau rhanbarthol | cwestiynnau cyffredin | newyddion | cysylltiadau